Barry John | |
---|---|
Ganwyd | 6 Ionawr 1945 Cefneithin |
Bu farw | 4 Chwefror 2024 Caerdydd, Ysbyty Athrofaol Cymru |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb |
Taldra | 178 centimetr |
Pwysau | 75 cilogram |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Clwb Rygbi Caerdydd, Y Barbariaid, Clwb Rygbi Llanelli, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig |
Safle | maswr |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Cyn-chwaraewr rygbi o Gymru oedd Barry John (6 Ionawr 1945 – 4 Chwefror 2024). Ef oedd y maswr gorau yn hanes Rygbi'r undeb ym marn llawer o feirniaid.[1] Cafodd y llysenw "The King" ar ôl taith y Llewod Prydeinig yn Seland Newydd ym 1971.[2] Daeth ei bartneriaeth gyda Gareth Edwards yn chwedlonol.
Ganwyd Barry yng Nghefneithin, Sir Gaerfyrddin. Aeth i Ysgol Ramadeg y Gwendraeth a gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf dros glwb rygbi Llanelli pan oedd dal yn yr ysgol. Chwaraeodd ei gêm gyntaf i Gymru ym 1967, pan oedd yn fyfyriwr yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin, gan gymeryd lle David Watkins. Ffurfiodd bartneriaeth gyda'r mwyaf effeithiol yn hanes y gêm gyda'r mewnwr Gareth Edwards yn y tîm cenedlaethol.
Ymhen blwyddyn yr oedd wedi ei ddewis i deithio gyda'r Llewod Prydeinig i Dde Affrica, ond gorfodwyd ef i ddychwelyd adref ar ôl y gém brawf gyntaf oherwydd anaf. Ym 1971 aeth ar daith eto gyda'r Llewod, y tro hwn i Seland Newydd gyda Carwyn James, yntau yn frodor o Gefneithin, fel hyfforddwr. Enillodd y Llewod y gyfres o gemau prawf 2 - 1, gydag un prawf yn diweddu'n gyfartal, yr unig dro yn eu hanes i'r Llewod ennill cyfres yn Seland Newydd. O'r 48 pwynt a sgoriwyd gan y Llewod dros y pedair gêm, Barry John a sgoriodd 30, a rhoddwyd yr enw "Y Brenin John" iddo gan gyfryngau a chefnogwyr Seland Newydd.
Flwyddyn yn ddiweddarach, cyhoeddodd ei ymddeoliad yn 27 oed ac ar ôl ennill 25 o gapiau i Gymru. Cipiwyd ei le yn nhîm Cymru gan Phil Bennett.[3] Daeth John yn golofnydd a darlledwr, cyn penderfynu tynnu'n ôl yn llwyr o rygbi[1]
Bu farw John, yn 79 oed, yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, gyda’i deulu’n bresennol.[4]